Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 30 Tachwedd 2016

Amser y cyfarfod: 13.30
 


36(v6)  

<AI1>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 3.

Gweld y Cwestiynau

 

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

(35 munud)

Gweld y Cwestiynau

 

</AI2>

<AI3>

Cwestiwn Brys 1

 

I’r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:

Bethan Jenkins (Gorllewin de Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drafodaethau y mae wedi'u cael â Trinity Mirror ynghylch y cynnig i gau gwaith argraffu'r cwmni yng Nghaerdydd, gan golli 33 o swyddi ar y safle?

 

</AI3>

<AI4>

Cwestiwn Brys 2

 

I’r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiadau ynghylch y posibilrwydd o golli swyddi yng ngwaith dur Tata Steel ym Mhort Talbot?

 

</AI4>

<AI5>

Cwestiwn Brys 3

 

I’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiad ynghylch ymchwiliad yr heddlu i gam-drin rhywiol hanesyddol mewn pêl-droed yng ngogledd Cymru?

 

</AI5>

<AI6>

3       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

 

</AI6>

<AI7>

4       Datganiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y Comisiynydd Safonau newydd

(30 munud)

 

</AI7>

<AI8>

5       Dadl Plaid Cymru

(60 munud)

 

NDM6176 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynlluniau llwyddiannus fel dydd Sadwrn busnesau bach i gynyddu nifer y bobl sy'n ymweld â chanol trefi ledled Cymru.

2. Yn nodi, o ganlyniad i gytundeb cyllideb Plaid Cymru â Llywodraeth Cymru, y caiff cronfa ei sefydlu a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i gynnig cyfleusterau parcio ceir am ddim yng nghanol trefi ledled Cymru, gan roi hwb hanfodol i adfywio canol trefi.

3. Yn gresynu fod y system ardrethi busnes bresennol yn rhoi baich anghymesur ar fusnesau bach sydd ag eiddo yng Nghymru, o'i gymharu â gweddill y DU.

4. Yn gresynu at effaith y gwaith diweddar o ailbrisio ardrethi busnes ar rai busnesau bach yng Nghymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ehangu'r cymorth pontio sydd ar gael i fusnesau bach y mae gwaith ailbrisio ardrethi annomestig 2017 yn effeithio arnynt;

b) archwilio'r posibilrwydd o ddynodi Cymru gyfan yn ardal fenter er mwyn rhoi'r math o fantais gystadleuol i Gymru sydd ei hangen i gau'r bwlch economaidd rhwng Cymru a gweddill y DU;

c) sicrhau y rhoddir y pwysau dyledus i fuddiannau busnesau bach yng ngwaith y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol newydd i Gymru a'r Banc Datblygu Cenedlaethol;

d) pennu targed i godi lefelau presennol caffael o 55 y cant i o leiaf 75 y cant o wariant sector cyhoeddus Cymru yng Nghymru; ac

e) cyflwyno ymgyrch 'prynu'n lleol' wedi'i hanelu at ddefnyddwyr a phrif brynwyr yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

Yn nodi:

a) effaith cynlluniau llwyddiannus fel dydd Sadwrn busnesau bach, sy'n cynyddu nifer y bobl sy'n ymweld â chanol trefi ledled Cymru;

b) cytundeb y gyllideb ddrafft gyda Phlaid Cymru, sy'n cynnwys £3m a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i gynnal cynlluniau peilot i asesu effaith cynnig mannau parcio am ddim yng nghanol trefi;

c) bod y system ardrethi busnes bresennol yn codi £1bn, sy'n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru y mae busnesau bach yn dibynnu arnynt;

d) nad yw'r gwaith ailbrisio ardrethi busnes a gynhaliwyd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sef asiantaeth annibynnol, wedi ei gynllunio i godi refeniw ychwanegol ac er bod rhai gwerthoedd ardrethol wedi cynyddu, maent wedi gostwng ar y cyfan;

e) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi busnes newydd, parhaol yn 2018;

f) bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi cynyddu nifer y busnesau bach yng Nghymru sy'n cael contractau; a

g) bwriad Llywodraeth Cymru i:

i) sicrhau y rhoddir pwysau dyledus i fuddiannau busnesau bach a chanolig yng ngwaith y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol newydd i Gymru a'r Banc Datblygu Cenedlaethol; a

ii) cyhoeddi blaenoriaethau economaidd newydd yn 2017, i wneud Cymru'n fwy llewyrchus a sicr.

[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 yn cael eu dad-ddethol]

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
 
Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1:

'ond yn gresynu mai yng Nghymru y mae'r raddfa uchaf yn y DU o siopau gwag ar y stryd fawr a bod nifer yr ymwelwyr â'r stryd fawr yng Nghymru wedi disgyn 1.4 y cant o'i gymharu â mis Hydref 2015.'

Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu ymrwymiad y gyllideb ddrafft i gyflwyno cynllun peilot ar gyfer parcio am ddim ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio mwy gyda'r diwydiant manwerthu i lunio dull integredig o adfywio canol trefi, sy'n ymgorffori parcio am ddim, diwygio ardrethi busnes, cynllunio wedi'i symleiddio, rheolwyr canol trefi ac economi gyfrifol gyda'r nos.

Gwelliant 4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ym mhwynt 5, dileu is-bwynt (b)

Gwelliant 5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:

'cydnabod manwerthu fel sector flaenoriaeth wrth ddatblygu strategaeth economaidd newydd Llywodraeth Cymru.'
 
Gwelliant 6. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod llywodraeth glymblaid Cymru'n Un wedi methu ag ymestyn y rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau bach yng Nghymru.

 

</AI8>

<AI9>

6       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

(60 munud)

 

NDM6177  Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y gall hyrwyddo defnydd arloesol o ofal iechyd trawsffiniol gynnig gwell canlyniadau i gleifion ar gyfer pobl yng Nghymru a Lloegr.
2. Yn nodi canfyddiadau Comisiwn Silk, a wnaeth argymhellion i wella darpariaeth iechyd drawsffiniol, yn enwedig o ran hyrwyddo gweithio agosach ym maes gwasanaethau arbenigol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried canfyddiadau adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar drefniadau iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr, sy'n cyfleu pryderon am yr anawsterau a'r oedi o ran cael gafael ar wasanaethau eilaidd ac arbenigol ar sail drawsffiniol.

'Y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, Grymuso a Chyfrifoldeb:  Pwerau Deddfwriaethol i Gryfhau Cymru'

Welsh Affairs Select Committee – Third Report - Cross-border health arrangements between England and Wales’ (Saesneg yn unig)

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru):
 

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
 
Yn nodi'r problemau o ran recriwtio meddygon teulu mewn ardaloedd gwledig trawsffiniol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Adran Iechyd Llywodraeth y DU i sefydlu un rhestr cyflawnwyr ar gyfer meddygon teulu, a fydd yn galluogi meddygon teulu i weithio bob ochr i'r ffin.

 

</AI9>

<AI10>

7       Cyfnod pleidleisio

 

</AI10>

<AI11>

8       Dadl Fer

(30 munud)

 

NDM6178 Nick Ramsay (Mynwy)
 
Byw gyda cholli'r golwg: sut y gallwn wella hygyrchedd yng Nghymru i bobl ddall a rhannol ddall

 

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2016

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>